Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | war fiction, ffilm |
Prif bwnc | rhyfel |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Genre o ffilm yw ffilm ryfel sy'n ymwneud â rhyfela, ac yn enwedig brwydrau ar y tir a'r môr ac yn yr awyr, ac sy'n cynnwys golygfeydd o ymladd sydd yn ganolog i ddrama'r stori. Gall ffilm ryfel fod yn ffuglen, neu'n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, megis ffilm hanesyddol neu fywgraffyddol, neu'n ffilm ddogfen ffeithiol.
Mae ffilmiau rhyfel yn aml yn ymdrin â themâu megis natur rhyfel, ymladd, goroesiad, dihangfa, aberth, cwmnïaeth rhwng milwyr a morâl, creulondeb ac annynoldeb ar faes y gad, ac effeithiau rhyfel ar gymdeithas ac unigolion.
Ceir sawl is-genre o'r ffilm ryfel, gan gynnwys y ffilm wrth-ryfel, y gomedi ryfel, a phropaganda.[1]